Thursday, 21 May 2009

Enwogrwydd - Rhan Dau

Y tro diwethaf, soniais am bobl sydd am fod yn awduron er mwyn enwogrwydd. Esboniais fy mod o'r farn y dylid trin yr yrfa fel unrhyw yrfa arall. Ond mae rheswm arall pam rwy'n ystyried yr agwedd hon yn niweidiol.

Ar wahân i nofelau a cherddi, prin yw'r dulliau ysgrifennu a gaiff eu darllen yn uniongyrchol fel geiriau ar bapur. Hwyluswyr yw nifer o awduron - nhw sy'n creu'r geiriau er mwyn i eraill allu symud ymlaen at gamau pellach.

Er enghraifft, ar ôl ysgrifennu sgript, bydd tîm cynhyrchu yn ei throi'n raglen neu'n ffilm. Bydd eu mewnbwn hwy yn ychwanegu llawer at y stori - pethau nad oedd yn bodoli yn y sgript wreiddiol - ac yn symud y stori gam ymhellach at fod yn barod i gael ei phrofi gan y cyhoedd. I ysgrifenwyr caneuon, bydd llawer o waith cynhyrchu i'w wneud er mwyn recordio'r gân, heb sôn am gael rhywun i ganu'r gân yn y lle cyntaf.

Mae nifer o straeon am ysgrifenwyr caneuon a theledu yn cwyno am nad oeddent yn derbyn y clod yr oeddent yn ei ystyried yn hawl iddynt. Ond mae hyn yn cysylltu eto gyda fy erthygl ddoe - ni ddylai clod fod yn gymhelliant i awduron.

Dylai awduron fod yn y cefndir. Os nad yw'r gynulleidfa'n ymwybodol fod y stori wedi cael ei hysgrifennu, hyd yn oed (ac mae'n syndod cynifer o bobl sy'n credu bod rhaglenni fel operâu sebon yn cael eu creu heb fod angen ysgrifennu sgript - bod yr actorion yn creu'r ddeialog ar y pryd), yna mae'r stori'n llwyddo.

Yr awdur sy'n cydlynu - nid yr awdur ddylai arwain. Sydd weithiau'n annheg ar eraill, wrth gwrs. Os yw sgript yn wael, yn aml, yr actorion sy'n cael y bai. Wedi'r cyfan, nhw y gallwn ni eu gweld o'n blaenau.

Pan fydd y stori'n barod, dylai allu cyfleu ei neges ar ei phen ei hun, a dylai'r awdur fod yn ddiangen erbyn hynny. Rwy'n hapus iawn fod llenorion ac awduron yn yr Eisteddfod yn cael eu beirniadu'n ddienw. Gwych o beth yw ysgrifennu'n anhysbys. Dim ond y gwaith ei hun sydd ar ôl.

Fy nyhead i yw cael gwneud gyrfa o ysgrifennu straeon - rhywbeth rwy'n mwynhau ei wneud beth bynnag. Efallai na fydd neb yn adnabod fy enw i, ond nid dyna sy'n bwysig. Ac mae hwn yn gyfle da i esbonio nad Dai yw fy enw i mewn gwirionedd, a fod y blog hwn yn anhysbys hefyd.

Wednesday, 20 May 2009

Enwogrwydd - Rhan Un

Mae gyrfa o ysgrifennu yn debyg iawn i unrhyw yrfa arall mewn nifer o ffyrdd, ond teimlaf bod nifer yn ei ystyried yn rywbeth gwahanol iawn. Oherwydd poblogrwydd ffilm a theledu, mae nifer o bobl sy'n eu cynhyrchu (yr awduron, y cyfarwyddwyr, y cynhyrchwyr, ac yn enwedig yr actorion) yn dod yn adnabyddus - yn enwog, hyd yn oed.

Hen ystrydeb yw bod 90% o actorion yn ddi-waith, a does gen i ddim syniad sut byddai dod o hyd i dystiolaeth drosti. Ac os yw actor yn ddi-waith, ai actor ydyw mewn gwirionedd? Nid postmon mo bostmon di-waith. Ond ta waeth, mae'r darlun a gynigir yn un o yrfa y mae nifer helaeth iawn o bobl am ei gwneud, a dim galw am nifer mor sylweddol.

Pam, felly, mae cynifer o bobl am roi cynnig ar yrfa mor anrhagweladwy? Teimlaf mai un rheswm nodedig yw'r syniad o enwogrwydd. Gall actorion fod yn anhygoel o boblogaidd ymysg nifer enfawr o bobl - prin yw'r gyrfaoedd sy'n cynnig posibilrwydd o'r fath. Gyda gwobr mor wych yn y fantol, onid yw hi werth mentro?

Mae ysgrifennu yn faes tebyg. Ddim i'r un graddau, ond mae ambell i awdur hynod adnabyddus a llwyddiannus, ac rwy'n siŵr fod hynny'n apelio - oni fyddai'n braf mwynhau'r un llwyddiant â JK Rowling neu Dan Brown?

Dyma ro'n i'n ei olygu yn y paragraff agoriadol wrth "rywbeth gwahanol" i yrfaoedd eraill. Yn sydyn, nid y gwaith ei hun sy'n bwysig, ond y targed yn y pen draw. Fel actorion, mae llawer mwy o awduron na sydd o alw am nofelau, ffilmiau a chyfresi teledu. Ar gyfartaledd, bydd nofel newydd yn y Saesneg yn gwerthu pum can copi. Am bob JK Rowling, mae miloedd yn gwerthu llawer llai na phum can copi i ostwng y gyfartaledd.

Ond, fel nifer o ddarpar actorion, mae pobl yn mynd ati i ysgrifennu beth bynnag, gan obeithio bod yn un o'r dethol rai. Rheswm erchyll i ysgrifennu, yn fy marn i. Does dim diben gwneud unrhyw swydd oni bai eich bod yn mwynhau'r gwaith o ddydd i ddydd. Nid cyfweliadau a gwobrau yw cymhelliant awdur, ond y dyhead am greu straeon.

Efallai bod hyn yn llai cyffredin yn y cyfryngau Cymraeg, ond rwy'n amau bod hwythau hefyd yn denu rhywfaint o bobl sydd ond yn ystyried eu cyfle i fod yn sêr. Rwy'n ymwybodol o hyn, ac yn ceisio sicrhau fy mod yn trin y peth fel gyrfa ddilys, heb golli persbectif.

Tuesday, 19 May 2009

Straeon Cymraeg

I mi, mae'n bwysig bod stori'n manteisio'n llawn ar gyfrwng y stori honno. Hynny yw, dylai nofel wneud y mwyaf o fod yn nofel, dylai rhaglen radio gymryd mantais o fod yn gyfrwng sain yn unig, ac yn y blaen.

Mae hyn yn arbennig o wir i ysgrifennu yn Gymraeg. Isel iawn yw nifer straeon Cymraeg o'i gymharu â'r nifer sy'n bodoli yn y Saesneg, felly teimlaf ei bod yn ddyletswydd ar bawb sy'n ysgrifennu yn yr iaith wneud y mwyaf ohoni. Mae temtasiwn bob amser i efelychu straeon Saesneg (sy'n naturiol - mae pob stori yn efelychu straeon eraill), ond i mi, straeon sy'n gwneud y mwyaf o ddiwylliant Cymraeg a Chymreig yw'r rhai mwyaf llwyddiannus yn yr iaith.

Er enghraifft, pan ddarlledwyd Pam Fi Duw? am y tro cyntaf, roedd hi'n gyfres hynod lwyddiannus. Am y tro cyntaf, roedd cyfres yn darlunio elfennau o ysgolion uwchradd Cymraeg nas gwelwyd ar y teledu erioed o'r blaen. Gwahanol safonau iaith, er enghraifft, a disgyblion nad oeddent yn siarad Cymraeg yn gymdeithasol. Hyd yn oed heddiw, mae'r rhain yn elfennau anghyffredin mewn cyfres Gymraeg, a dim ond yn y Gymraeg y gellir eu harddangos fel hyn.

Gwnaeth y gyfres Pobl y Chyff rywbeth tebyg i gomedi. Roedd y cyntaf yn ymwneud â dysgwyr o Firmingham a oedd yn byw mewn tŷ haf yng Nghymru, ac roedd y gyfres yn cynnwys llawer o elfennau gwirioneddol Gymreig - wynebau cyfarwydd o fyd gwleidyddiaeth a newyddiaduro, er enghraifft. Roedd hyd yn oed yn cynnwys cyfeiriadau at ddiwylliant pop Cymru - roedd un bennod yn cynnwys cymeriadau o Briwsion, cyfres i blant a ddarlledwyd ddegawd cyn y gyfres hon.

Ymddengys bod comedi'n gweld mantais diwylliant Cymraeg yn well na drama. Er fod nifer o gyfresi Saesneg yn cynnwys cymeriadau cyferbyniol yn byw gyda'i gilydd, llwyddodd Fo a Fe i greu syniad gwreiddiol ohono, ac unigryw i'r Gymraeg. Yn nes ymlaen, roedd nifer helaeth o sgetshis y gyfres Lolipop wedi'u gwreiddio'n gadarn mewn diwylliant Cymraeg a Chymreig, gan gyfeirio at bethau fel Cantre'r Gwaelod, y wisg Gymreig, llenorion a'r Eisteddfod, a nifer o agweddau eraill.

Gallwn restru llawer, llawer mwy o'r cyfresi hyn, ond rwy'n siŵr fy mod wedi traethu digon. Pan rwy'n meddwl am straeon Cymraeg, rwy'n meddwl am themâu a syniadau Cymreig. Yn fy marn i, cryfder yr iaith yw cymaint o ddiwylliant sydd wedi esblygu o'i chwmpas, a gyda chynifer o agweddau i'w trafod, fyddwn i fy hun ddim yn trafferthu gwneud dim arall mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Monday, 18 May 2009

Datrysiadau

Wrth feddwl am syniadau, a chreu strwythur i straeon, ac wrth i’r stori dyfu’n fwy eglur – dyna pryd y daw’r problemau mwyaf. Digon hawdd oedd meddwl am syniad fel “tri cymeriad yn symud i ardal newydd gyda’i gilydd” (cynsail fy mhrosiect “Cymuned”), a haws byth oedd creu’r cymeriadau, eu hanesion a’u cymhelliant ... ond sut mae’r tri yn adnabod ei gilydd yn y lle cyntaf?

Ro’n i eisoes wedi penderfynu y byddai dau ohonynt yn ffrindiau agos, ond beth am y drydedd? Ro’n i’n dychmygu ei bod hi o ardal gwahanol ac oedran gwahanol i’r ddau arall (y rheiny yn ganol oed ac yn byw yn y de, hithau yn ei hugeiniau ac yn byw yn y gogledd). Sut mae hi’n dod yn rhan o’r cynllun? Sut mae hi’n eu hadnabod, hyd yn oed?

Weithiau, gall broblemau fel hyn ymddangos fel mwy o broblem na’r sgriptio ei hun. A bob tro mae problemau o’r fath yn codi, bydd yr ateb yn gwbl amlwg yn y pen draw.

Wrth ysgrifennu triniaeth ar gyfer y ffilm, daeth ateb yn amlwg yn gynnar iawn. Rydyn ni yn y Byd Go Iawn yn cwrdd â phobl newydd bob dydd, mewn cant a mil o ffyrdd gwahanol. Cant a mil o opsiynau i ddatrys y broblem! Beth, felly, fyddai’n peri i gymeriad deithio i ardal arall, ac i gwrdd â pherson iau na hwy?

Mae nifer o atebion posib, wrth gwrs, ond fy mhenderfyniad i oedd y byddai’r cymeriad iau yn gariad newydd i gefnder un o’r cymeriadau hŷn. Yn sydyn, dyma ehangu ar eu hanes, gan greu perthynas llawer mwy diddorol nag oedd yn ymddangos ar bapur.

Soniais y tro diwethaf fy mod yn ystyried cymhelliant yn un o’r pethau anoddaf i ddarpar awduron, ond rhywbeth arall sy’n peri trafferth yw problemau bach, gwirion fel hyn, lle byddai’r ateb yn amlwg i rywun arall, ond sy’n troi’n benbleth difrifol i rywun sy’n ceisio cydlynu’r holl stori, gan gynnwys y lleoliadau, y themâu, y strwythur, a phob math o bethau eraill.

Yn reddfol, teimlaf y dylai profiad ei gwneud hi’n haws i ddatrys problemau fel hyn, ond mewn gwirionedd, rwy’n credu eu bod yn rhan annatod o’r broses. Yn aml, mae’n anodd gwybod beth yw’r broblem, hyd yn oed – roedd hi’n anodd dod â’r tri cymeriad ynghyd, ond pam? Dim ond ar ôl meddwl am y cwestiwn – “sut mae nhw’n adnabod ei gilydd?” – y cefais hyd i ateb.

Friday, 15 May 2009

Cymhelliant

Rwy'n credu mai cymhelliant yw'r trafferth mwyaf i unrhyw un sydd am ysgrifennu fel gyrfa.

Gwaith gweddol hawdd yw creu syniadau, cymeriadau, sefyllfaoedd ac ati - y ddawn yw eistedd o flaen cyfrifiadur yn ddigon hir i orfodi'r syniadau hyn i lunio stori.

Y broblem yw nad ydw i byth yn teimlo'n barod i ddechrau. Gallwn dreulio wythnosau a mwy yn ystyried pob elfen yn ofalus, ac yn meddwl am yr holl bosibiliadau. Y tro diwethaf, soniais am y broses o wneud penderfyniadau - ac mae'r broses yn dechrau o'r eiliad y daw syniad i ben rhywun. Dyn neu fenyw fel prif gymeriad? Ym mha gyfnod mae'r stori'n digwydd? Comedi neu ddrama dywyll? O ble y daw'r cymeriadau? Pob math o gwestiynau, ac mae'n anodd dechrau ysgrifennu gan wybod cynifer ohonynt sydd heb eu hateb eto.

Ond mewn gwirionedd, osgoi gwaith yw llawer o hyn. Oes, mae'n rhaid gwneud nifer o benderfyniadau mawr cyn dechrau ysgrifennu, ond mae nifer o benderfyniadau llai pwysig yn tyfu'n fwganod yn y pen. Y broblem yw, pa benderfyniadau sy'n bwysig? Teimlaf y byddai cynifer o atebion â sydd o awduron. I mi, nid yw enwau cymeriadau yn hynod bwysig. Rwy'n hapus i ddewis enwau yn gyflym, a bwrw ymlaen â'r gwaith. I eraill, mae'n gythreulig o anodd meddwl am enwau perffaith, ac maent yn cael trafferth mawr yn ysgrifennu heb enw priodol i'w cymeriadau.

Rwyf bob amser yn ceisio adnabod fy ngwendidau fy hun - yr hyn sy'n fy arafu heb reswm. Dydw i ddim yn hoff o ysgrifennu am gymeriadau oni bai eu bod yn teimlo fel pobl go iawn i mi, felly efallai fy mod yn gwastraffu amser yn eu datblygu yn fy meddwl yn hytrach na dechrau ysgrifennu amdanynt a dod i'w hadnabod drwy wneud hynny.

Problem arall yw fod drafft cyntaf unrhyw ddarn o waith yn erchyll, ac mae'n anodd iawn brwydro trwyddi heb deimlo'n ddiwerth. Mae gan yr awduron gorau flynyddoedd o brofiad, ac mae drafftiau cyntaf y rheiny'n wan, hyd yn oed. Pa obaith sydd gan rywun sy'n ceisio dysgu o'r newydd, gan gymharu ei waith â gwaith y goreuon?

Ac mae hyn oll heb sôn am yr esgusodion eraill dros beidio ag ysgrifennu. Hawdd iawn yw rhoi'r gorau iddi. Yn aml, mae ysgrifennu'n ymddangos fel dawn anhygoel - yn enwedig yng Nghymru, lle rydym yn dathlu ein llenorion yn fwy na neb. Ond yr un yw'r ddawn o ysgrifennu â'r ddawn o eistedd a gwneud gwaith cartref mewn gwirionedd. Ac mae'n ddawn anodd ei datblygu.

Thursday, 14 May 2009

Penderfyniadau a Chymeriadau

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar brosiect o’r enw “Cymuned”. Ffilm deledu awr a hanner o hyd, gyda’r posibilrwydd o fod yn raglen “beilot” i gyfres hirach.

Rwyf wrthi’n ysgrifennu triniaeth ar hyn o bryd, ond mae’n amlwg fod y syniadau’n bell o fod yn barod. Mae tri prif gymeriad i’r stori, a phob un ohonynt yn peri trafferth mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae’r plot yn ymwneud â nhw’n symud i ardal newydd, ond dydw i ddim yn siŵr faint o amser i’w dreulio yn cyflwyno’r cymeriadau cyn eu symud yno. Mae fy ngreddf yn dweud wrtha’i am eu symud yno’n syth, er mwyn dechrau ar y stori go iawn, ond ar y llaw arall, mae llawer o benderfyniadau pwysig yn arwain at y penderfyniad i symud i’r tri ohonynt, a byddai’n braf gweld y penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud.

Dyma sut rwy’n meddwl am ysgrifennu. Llwyth o benderfyniadau i’w gwneud bob amser, a bydd pob penderfyniad yn cau’r drws ar gant a mil o opsiynau eraill. Y tric yw i wneud y penderfyniadau gorau er mwynhad y gwylwyr bob tro.

Er fod pethau fel themâu a moeseg a strwythur yn bwysig, teimlaf mai prif amcan unrhyw raglen deledu yw difyrru’r gynulleidfa. Byddai’n well gen i wylio cyfres flêr, anhrefnus sy’n llawn hwyl na champwaith o strwythur sy’n sych ac yn ddiflas. Rydym ni oll yn fwy parod i faddau gwallau mewn rhywbeth rydyn ni’n ei fwynhau na rhywbeth nad ydym yn hoff ohono.

Nôl at y cwestiwn, felly. Pryd ddylai’r cymeriadau symud i’r ardal newydd? Yr ardal newydd sy’n cynnig y mwyaf o gyfleoedd am hwyl a chyffro, a dyna’r hoffwn ei gyflwyno i’r gynulleidfa. Gorau po gyntaf y cyrhaeddwn ni yno, felly. Ond mae’n bwysig eu bod yn deall cymhelliant a hanes y cymeriadau, a dydw i ddim am ddibynnu ar ôl-fflachiau.

Ar yr un pryd, dydw i ddim yn siŵr os yw’r cymeriadau eu hunain yn ddigon diddorol eto. Rwy’n weddol hapus fy mod wedi penderfynu’n ddoeth ar eu sefyllfaoedd (eu swyddi, eu perthnasau ...), ond rwy’n meddwl bod angen mwy arnynt i’w gwneud yn gymeriadau byw. Dydw i ddim yn hoff o greu rhestrau hirfaith o hoff fwydydd cymeriadau ac ati (ffordd rhy dynn o ysgrifennu i mi), ond mae angen ychwanegu mwy i ddod â’r cymeriadau’n fyw yn fy meddwl.

Dyma beth ddaeth i’r amlwg drwy ddechrau fy nhriniaeth. Tan i mi ddatrys y problemau hyn, dydw i ddim am symud ymlaen i’r crynodeb.

Wednesday, 13 May 2009

Crynodeb

Y tro diwethaf, soniais am greu “triniaeth” – dogfen yn disgrifio sgript yn gyffredinol, gan nodi cynifer o elfennau hanfodol â phosib, mor gryno â phosib.

I mi, y cam nesaf yw creu “crynodeb”. Dogfen yw hon sy’n disgrifio yn union beth sy’n digwydd mewn sgript, yn y drefn mae’n digwydd, yn syml ac yn eglur. Rwy’n ceisio cadw crynodeb dan fil o eiriau bob tro.

Brawddegau cryno, syml sydd eu hangen yma, gan gadw at y stori ei hun – does dim angen trafod themâu, cymhelliant cymeriadau na symbolaeth yma. Y nod yw sicrhau fod strwythur y stori’n gweithio. Yn y pen draw, dylech allu rhoi’r ddogfen i awdur arall, a byddai’n caniatáu iddynt ddeall y plot yn llwyr, ac i greu sgript weithredol yn seiliedig arni.

Os bydd problemau gyda’r strwythur, mae’n llawer gwell sylwi arnynt ar y cam yma nag ar ôl wythnosau o sgriptio. Mae problemau’n anochel wrth ysgrifennu, ond mae’n haws golygu dwy awr o waith na mis o waith.

Fel mae’n digwydd, ni fyddaf yn tueddu i ddefnyddio’r driniaeth i greu’r crynodeb. Fel arfer, mae’r weithred o greu triniaeth yn ddigon i hoelio cysyniadau yn eu lle, a does dim angen eu hailddarllen er mwyn eu cofio. Ac wrth gwrs, bydd rhai pethau’n newid wrth ddechrau llunio’r stori. Efallai y bydd cymeriad newydd yn ymddangos, neu gymeriad arall yn cael eu hepgor. Y nod yw creu’r stori orau bosib, felly os oes elfen yn teimlo’n chwithig, mwy na thebyg bod angen gwaith arni.

Yn yr un modd ag y byddaf yn anwybyddu’r driniaeth wrth greu’r grynodeb, ni fyddaf o reidrwydd yn dilyn y grynodeb pan fyddaf yn mynd ati i sgriptio. Y nod yw creu strwythur gweithredol, cofiadwy sy’n glir yn fy meddwl cyn i mi ddechrau ysgrifennu’r stori. Os bydd problem wrth sgriptio, gallaf edrych yn ôl dros fy nghrynodeb, a bydd hynny’n aml yn datrys y broblem (cyn belled â fy mod wedi sicrhau bod y crynodeb yn gweithio, heb fod yn anghyson).

Pan fyddaf yn sgriptio, felly, bydd y stori gyfan gen i mewn cof – gan gynnwys y diweddglo, a phopeth sy’n arwain ato. Rwyf wedi clywed nifer yn sôn am y broblem o greu diweddglo cryf. Mae pawb yn ysgrifennu mewn ffordd wahanol, ond drwy ysgrifennu crynodeb cyn cychwyn, gallwch fwrw ymlaen â’ch sgript yn hyderus, heb orfod poeni sut i glymu’r holl linynnau storïol ynghyd.