Friday 15 May 2009

Cymhelliant

Rwy'n credu mai cymhelliant yw'r trafferth mwyaf i unrhyw un sydd am ysgrifennu fel gyrfa.

Gwaith gweddol hawdd yw creu syniadau, cymeriadau, sefyllfaoedd ac ati - y ddawn yw eistedd o flaen cyfrifiadur yn ddigon hir i orfodi'r syniadau hyn i lunio stori.

Y broblem yw nad ydw i byth yn teimlo'n barod i ddechrau. Gallwn dreulio wythnosau a mwy yn ystyried pob elfen yn ofalus, ac yn meddwl am yr holl bosibiliadau. Y tro diwethaf, soniais am y broses o wneud penderfyniadau - ac mae'r broses yn dechrau o'r eiliad y daw syniad i ben rhywun. Dyn neu fenyw fel prif gymeriad? Ym mha gyfnod mae'r stori'n digwydd? Comedi neu ddrama dywyll? O ble y daw'r cymeriadau? Pob math o gwestiynau, ac mae'n anodd dechrau ysgrifennu gan wybod cynifer ohonynt sydd heb eu hateb eto.

Ond mewn gwirionedd, osgoi gwaith yw llawer o hyn. Oes, mae'n rhaid gwneud nifer o benderfyniadau mawr cyn dechrau ysgrifennu, ond mae nifer o benderfyniadau llai pwysig yn tyfu'n fwganod yn y pen. Y broblem yw, pa benderfyniadau sy'n bwysig? Teimlaf y byddai cynifer o atebion â sydd o awduron. I mi, nid yw enwau cymeriadau yn hynod bwysig. Rwy'n hapus i ddewis enwau yn gyflym, a bwrw ymlaen â'r gwaith. I eraill, mae'n gythreulig o anodd meddwl am enwau perffaith, ac maent yn cael trafferth mawr yn ysgrifennu heb enw priodol i'w cymeriadau.

Rwyf bob amser yn ceisio adnabod fy ngwendidau fy hun - yr hyn sy'n fy arafu heb reswm. Dydw i ddim yn hoff o ysgrifennu am gymeriadau oni bai eu bod yn teimlo fel pobl go iawn i mi, felly efallai fy mod yn gwastraffu amser yn eu datblygu yn fy meddwl yn hytrach na dechrau ysgrifennu amdanynt a dod i'w hadnabod drwy wneud hynny.

Problem arall yw fod drafft cyntaf unrhyw ddarn o waith yn erchyll, ac mae'n anodd iawn brwydro trwyddi heb deimlo'n ddiwerth. Mae gan yr awduron gorau flynyddoedd o brofiad, ac mae drafftiau cyntaf y rheiny'n wan, hyd yn oed. Pa obaith sydd gan rywun sy'n ceisio dysgu o'r newydd, gan gymharu ei waith â gwaith y goreuon?

Ac mae hyn oll heb sôn am yr esgusodion eraill dros beidio ag ysgrifennu. Hawdd iawn yw rhoi'r gorau iddi. Yn aml, mae ysgrifennu'n ymddangos fel dawn anhygoel - yn enwedig yng Nghymru, lle rydym yn dathlu ein llenorion yn fwy na neb. Ond yr un yw'r ddawn o ysgrifennu â'r ddawn o eistedd a gwneud gwaith cartref mewn gwirionedd. Ac mae'n ddawn anodd ei datblygu.

No comments:

Post a Comment