Monday 18 May 2009

Datrysiadau

Wrth feddwl am syniadau, a chreu strwythur i straeon, ac wrth i’r stori dyfu’n fwy eglur – dyna pryd y daw’r problemau mwyaf. Digon hawdd oedd meddwl am syniad fel “tri cymeriad yn symud i ardal newydd gyda’i gilydd” (cynsail fy mhrosiect “Cymuned”), a haws byth oedd creu’r cymeriadau, eu hanesion a’u cymhelliant ... ond sut mae’r tri yn adnabod ei gilydd yn y lle cyntaf?

Ro’n i eisoes wedi penderfynu y byddai dau ohonynt yn ffrindiau agos, ond beth am y drydedd? Ro’n i’n dychmygu ei bod hi o ardal gwahanol ac oedran gwahanol i’r ddau arall (y rheiny yn ganol oed ac yn byw yn y de, hithau yn ei hugeiniau ac yn byw yn y gogledd). Sut mae hi’n dod yn rhan o’r cynllun? Sut mae hi’n eu hadnabod, hyd yn oed?

Weithiau, gall broblemau fel hyn ymddangos fel mwy o broblem na’r sgriptio ei hun. A bob tro mae problemau o’r fath yn codi, bydd yr ateb yn gwbl amlwg yn y pen draw.

Wrth ysgrifennu triniaeth ar gyfer y ffilm, daeth ateb yn amlwg yn gynnar iawn. Rydyn ni yn y Byd Go Iawn yn cwrdd â phobl newydd bob dydd, mewn cant a mil o ffyrdd gwahanol. Cant a mil o opsiynau i ddatrys y broblem! Beth, felly, fyddai’n peri i gymeriad deithio i ardal arall, ac i gwrdd â pherson iau na hwy?

Mae nifer o atebion posib, wrth gwrs, ond fy mhenderfyniad i oedd y byddai’r cymeriad iau yn gariad newydd i gefnder un o’r cymeriadau hŷn. Yn sydyn, dyma ehangu ar eu hanes, gan greu perthynas llawer mwy diddorol nag oedd yn ymddangos ar bapur.

Soniais y tro diwethaf fy mod yn ystyried cymhelliant yn un o’r pethau anoddaf i ddarpar awduron, ond rhywbeth arall sy’n peri trafferth yw problemau bach, gwirion fel hyn, lle byddai’r ateb yn amlwg i rywun arall, ond sy’n troi’n benbleth difrifol i rywun sy’n ceisio cydlynu’r holl stori, gan gynnwys y lleoliadau, y themâu, y strwythur, a phob math o bethau eraill.

Yn reddfol, teimlaf y dylai profiad ei gwneud hi’n haws i ddatrys problemau fel hyn, ond mewn gwirionedd, rwy’n credu eu bod yn rhan annatod o’r broses. Yn aml, mae’n anodd gwybod beth yw’r broblem, hyd yn oed – roedd hi’n anodd dod â’r tri cymeriad ynghyd, ond pam? Dim ond ar ôl meddwl am y cwestiwn – “sut mae nhw’n adnabod ei gilydd?” – y cefais hyd i ateb.

No comments:

Post a Comment