Tuesday 12 May 2009

Triniaeth

Cyn mynd ati i ysgrifennu gair o sgript, byddaf yn creu dwy ddogfen arall yn gyntaf – “triniaeth” a “chrynodeb”.

Diben y “driniaeth” yw disgrifio’r sgript (boed yn ffilm, yn bennod o ddrama, yn gyfres ...) er mwyn i unrhyw ddarllenydd ddeall yr hyn rwy’n anelu i wneud ynddi. Bydd hyn yn cynnwys pwy fydd y prif gymeriadau, ble fydd y prif leoliadau, beth fydd y llinynnau storïol, beth fydd naws y darn, pwy yw’r gynulleidfa darged, faint o hiwmor, rhegi neu Saesneg fydd yn y darn, pa dafodieithoedd ... popeth y gallaf feddwl amdano sy’n berthnasol i ddeall y sgript. Y gamp yw cadw’r ddogfen mor gryno â phosib, ond heb hepgor unrhyw fanylion hanfodol.

I mi, mae triniaeth yn hollbwysig am ddau reswm. I ddechrau, yn y pen draw, dyma fyddaf yn ei hanfon at gynhyrchwyr er mwyn ceisio “gwerthu’r” syniad. Mae’n llawer cynt darllen triniaeth na sgript gyfan, a’r gobaith yw y gallaf ddangos fy mod yn deall sgriptio, ac yn gallu creu straeon, gan ennyn diddordeb yn y sgript ei hun.

Ond yn bwysicach na hynny, mae’r driniaeth yn gymorth i amlygu i mi fy hun beth yw natur y stori. Cyn ei hysgrifennu, mae unrhyw sgript (neu nofel, stori fer ...) yn gymysgedd o syniadau niwlog, ambell olygfa, enw cymeriad, rhyw jôc benodol, a chant a mil o elfennau eraill yr hoffwn eu cynnwys. Mae triniaeth yn help i fireinio’r syniad, ac i gyfuno’r elfennau hyn, fel fy mod gam yn nes at fod yn barod i ysgrifennu’r sgript.

Yn aml, bydd y driniaeth yn amlygu rhai pethau y dylent fod wedi bod yn amlwg o’r dechrau. Yn sydyn, byddaf yn gweld bod cymeriad a ddylai fod yn ddiddorol yn ddiflas ar hyn o bryd, neu nad wyf wedi penderfynu ar ble mae’r stori’n digwydd. Llawer gwell fy mod yn sylwi ar y bylchau hyn yn syth, rhag ofn i mi orfod ailysgrifennu tudalennau ar dudalennau am fy mod am newid rhywbeth elfennol.

Mae’n amhosib meddwl am bopeth ar yr un pryd, felly mae rhoi rhywbeth ar bapur yn gam pwysig. Mae cofio diben y stori yn bwysig hefyd. Ai comedi neu drasiedi yw hon? A ddylai’r cymeriadau fod yn hoffus ai peidio? Diffyg cyfeiriad yw un o broblemau mwyaf teledu, ac mae’n llawer haws penderfynu yn y lle cyntaf na gorfod ailddrafftio’n helaeth yn y pen draw.

Mae’r “crynodeb” ychydig yn wahanol, ac mi wnaf drafod y ddogfen honno y tro nesaf.

No comments:

Post a Comment