Thursday 14 May 2009

Penderfyniadau a Chymeriadau

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar brosiect o’r enw “Cymuned”. Ffilm deledu awr a hanner o hyd, gyda’r posibilrwydd o fod yn raglen “beilot” i gyfres hirach.

Rwyf wrthi’n ysgrifennu triniaeth ar hyn o bryd, ond mae’n amlwg fod y syniadau’n bell o fod yn barod. Mae tri prif gymeriad i’r stori, a phob un ohonynt yn peri trafferth mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae’r plot yn ymwneud â nhw’n symud i ardal newydd, ond dydw i ddim yn siŵr faint o amser i’w dreulio yn cyflwyno’r cymeriadau cyn eu symud yno. Mae fy ngreddf yn dweud wrtha’i am eu symud yno’n syth, er mwyn dechrau ar y stori go iawn, ond ar y llaw arall, mae llawer o benderfyniadau pwysig yn arwain at y penderfyniad i symud i’r tri ohonynt, a byddai’n braf gweld y penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud.

Dyma sut rwy’n meddwl am ysgrifennu. Llwyth o benderfyniadau i’w gwneud bob amser, a bydd pob penderfyniad yn cau’r drws ar gant a mil o opsiynau eraill. Y tric yw i wneud y penderfyniadau gorau er mwynhad y gwylwyr bob tro.

Er fod pethau fel themâu a moeseg a strwythur yn bwysig, teimlaf mai prif amcan unrhyw raglen deledu yw difyrru’r gynulleidfa. Byddai’n well gen i wylio cyfres flêr, anhrefnus sy’n llawn hwyl na champwaith o strwythur sy’n sych ac yn ddiflas. Rydym ni oll yn fwy parod i faddau gwallau mewn rhywbeth rydyn ni’n ei fwynhau na rhywbeth nad ydym yn hoff ohono.

Nôl at y cwestiwn, felly. Pryd ddylai’r cymeriadau symud i’r ardal newydd? Yr ardal newydd sy’n cynnig y mwyaf o gyfleoedd am hwyl a chyffro, a dyna’r hoffwn ei gyflwyno i’r gynulleidfa. Gorau po gyntaf y cyrhaeddwn ni yno, felly. Ond mae’n bwysig eu bod yn deall cymhelliant a hanes y cymeriadau, a dydw i ddim am ddibynnu ar ôl-fflachiau.

Ar yr un pryd, dydw i ddim yn siŵr os yw’r cymeriadau eu hunain yn ddigon diddorol eto. Rwy’n weddol hapus fy mod wedi penderfynu’n ddoeth ar eu sefyllfaoedd (eu swyddi, eu perthnasau ...), ond rwy’n meddwl bod angen mwy arnynt i’w gwneud yn gymeriadau byw. Dydw i ddim yn hoff o greu rhestrau hirfaith o hoff fwydydd cymeriadau ac ati (ffordd rhy dynn o ysgrifennu i mi), ond mae angen ychwanegu mwy i ddod â’r cymeriadau’n fyw yn fy meddwl.

Dyma beth ddaeth i’r amlwg drwy ddechrau fy nhriniaeth. Tan i mi ddatrys y problemau hyn, dydw i ddim am symud ymlaen i’r crynodeb.

No comments:

Post a Comment