Wednesday 20 May 2009

Enwogrwydd - Rhan Un

Mae gyrfa o ysgrifennu yn debyg iawn i unrhyw yrfa arall mewn nifer o ffyrdd, ond teimlaf bod nifer yn ei ystyried yn rywbeth gwahanol iawn. Oherwydd poblogrwydd ffilm a theledu, mae nifer o bobl sy'n eu cynhyrchu (yr awduron, y cyfarwyddwyr, y cynhyrchwyr, ac yn enwedig yr actorion) yn dod yn adnabyddus - yn enwog, hyd yn oed.

Hen ystrydeb yw bod 90% o actorion yn ddi-waith, a does gen i ddim syniad sut byddai dod o hyd i dystiolaeth drosti. Ac os yw actor yn ddi-waith, ai actor ydyw mewn gwirionedd? Nid postmon mo bostmon di-waith. Ond ta waeth, mae'r darlun a gynigir yn un o yrfa y mae nifer helaeth iawn o bobl am ei gwneud, a dim galw am nifer mor sylweddol.

Pam, felly, mae cynifer o bobl am roi cynnig ar yrfa mor anrhagweladwy? Teimlaf mai un rheswm nodedig yw'r syniad o enwogrwydd. Gall actorion fod yn anhygoel o boblogaidd ymysg nifer enfawr o bobl - prin yw'r gyrfaoedd sy'n cynnig posibilrwydd o'r fath. Gyda gwobr mor wych yn y fantol, onid yw hi werth mentro?

Mae ysgrifennu yn faes tebyg. Ddim i'r un graddau, ond mae ambell i awdur hynod adnabyddus a llwyddiannus, ac rwy'n siŵr fod hynny'n apelio - oni fyddai'n braf mwynhau'r un llwyddiant â JK Rowling neu Dan Brown?

Dyma ro'n i'n ei olygu yn y paragraff agoriadol wrth "rywbeth gwahanol" i yrfaoedd eraill. Yn sydyn, nid y gwaith ei hun sy'n bwysig, ond y targed yn y pen draw. Fel actorion, mae llawer mwy o awduron na sydd o alw am nofelau, ffilmiau a chyfresi teledu. Ar gyfartaledd, bydd nofel newydd yn y Saesneg yn gwerthu pum can copi. Am bob JK Rowling, mae miloedd yn gwerthu llawer llai na phum can copi i ostwng y gyfartaledd.

Ond, fel nifer o ddarpar actorion, mae pobl yn mynd ati i ysgrifennu beth bynnag, gan obeithio bod yn un o'r dethol rai. Rheswm erchyll i ysgrifennu, yn fy marn i. Does dim diben gwneud unrhyw swydd oni bai eich bod yn mwynhau'r gwaith o ddydd i ddydd. Nid cyfweliadau a gwobrau yw cymhelliant awdur, ond y dyhead am greu straeon.

Efallai bod hyn yn llai cyffredin yn y cyfryngau Cymraeg, ond rwy'n amau bod hwythau hefyd yn denu rhywfaint o bobl sydd ond yn ystyried eu cyfle i fod yn sêr. Rwy'n ymwybodol o hyn, ac yn ceisio sicrhau fy mod yn trin y peth fel gyrfa ddilys, heb golli persbectif.

No comments:

Post a Comment