Tuesday 19 May 2009

Straeon Cymraeg

I mi, mae'n bwysig bod stori'n manteisio'n llawn ar gyfrwng y stori honno. Hynny yw, dylai nofel wneud y mwyaf o fod yn nofel, dylai rhaglen radio gymryd mantais o fod yn gyfrwng sain yn unig, ac yn y blaen.

Mae hyn yn arbennig o wir i ysgrifennu yn Gymraeg. Isel iawn yw nifer straeon Cymraeg o'i gymharu â'r nifer sy'n bodoli yn y Saesneg, felly teimlaf ei bod yn ddyletswydd ar bawb sy'n ysgrifennu yn yr iaith wneud y mwyaf ohoni. Mae temtasiwn bob amser i efelychu straeon Saesneg (sy'n naturiol - mae pob stori yn efelychu straeon eraill), ond i mi, straeon sy'n gwneud y mwyaf o ddiwylliant Cymraeg a Chymreig yw'r rhai mwyaf llwyddiannus yn yr iaith.

Er enghraifft, pan ddarlledwyd Pam Fi Duw? am y tro cyntaf, roedd hi'n gyfres hynod lwyddiannus. Am y tro cyntaf, roedd cyfres yn darlunio elfennau o ysgolion uwchradd Cymraeg nas gwelwyd ar y teledu erioed o'r blaen. Gwahanol safonau iaith, er enghraifft, a disgyblion nad oeddent yn siarad Cymraeg yn gymdeithasol. Hyd yn oed heddiw, mae'r rhain yn elfennau anghyffredin mewn cyfres Gymraeg, a dim ond yn y Gymraeg y gellir eu harddangos fel hyn.

Gwnaeth y gyfres Pobl y Chyff rywbeth tebyg i gomedi. Roedd y cyntaf yn ymwneud â dysgwyr o Firmingham a oedd yn byw mewn tŷ haf yng Nghymru, ac roedd y gyfres yn cynnwys llawer o elfennau gwirioneddol Gymreig - wynebau cyfarwydd o fyd gwleidyddiaeth a newyddiaduro, er enghraifft. Roedd hyd yn oed yn cynnwys cyfeiriadau at ddiwylliant pop Cymru - roedd un bennod yn cynnwys cymeriadau o Briwsion, cyfres i blant a ddarlledwyd ddegawd cyn y gyfres hon.

Ymddengys bod comedi'n gweld mantais diwylliant Cymraeg yn well na drama. Er fod nifer o gyfresi Saesneg yn cynnwys cymeriadau cyferbyniol yn byw gyda'i gilydd, llwyddodd Fo a Fe i greu syniad gwreiddiol ohono, ac unigryw i'r Gymraeg. Yn nes ymlaen, roedd nifer helaeth o sgetshis y gyfres Lolipop wedi'u gwreiddio'n gadarn mewn diwylliant Cymraeg a Chymreig, gan gyfeirio at bethau fel Cantre'r Gwaelod, y wisg Gymreig, llenorion a'r Eisteddfod, a nifer o agweddau eraill.

Gallwn restru llawer, llawer mwy o'r cyfresi hyn, ond rwy'n siŵr fy mod wedi traethu digon. Pan rwy'n meddwl am straeon Cymraeg, rwy'n meddwl am themâu a syniadau Cymreig. Yn fy marn i, cryfder yr iaith yw cymaint o ddiwylliant sydd wedi esblygu o'i chwmpas, a gyda chynifer o agweddau i'w trafod, fyddwn i fy hun ddim yn trafferthu gwneud dim arall mewn llenyddiaeth Gymraeg.

No comments:

Post a Comment