Tuesday, 12 May 2009

Triniaeth

Cyn mynd ati i ysgrifennu gair o sgript, byddaf yn creu dwy ddogfen arall yn gyntaf – “triniaeth” a “chrynodeb”.

Diben y “driniaeth” yw disgrifio’r sgript (boed yn ffilm, yn bennod o ddrama, yn gyfres ...) er mwyn i unrhyw ddarllenydd ddeall yr hyn rwy’n anelu i wneud ynddi. Bydd hyn yn cynnwys pwy fydd y prif gymeriadau, ble fydd y prif leoliadau, beth fydd y llinynnau storïol, beth fydd naws y darn, pwy yw’r gynulleidfa darged, faint o hiwmor, rhegi neu Saesneg fydd yn y darn, pa dafodieithoedd ... popeth y gallaf feddwl amdano sy’n berthnasol i ddeall y sgript. Y gamp yw cadw’r ddogfen mor gryno â phosib, ond heb hepgor unrhyw fanylion hanfodol.

I mi, mae triniaeth yn hollbwysig am ddau reswm. I ddechrau, yn y pen draw, dyma fyddaf yn ei hanfon at gynhyrchwyr er mwyn ceisio “gwerthu’r” syniad. Mae’n llawer cynt darllen triniaeth na sgript gyfan, a’r gobaith yw y gallaf ddangos fy mod yn deall sgriptio, ac yn gallu creu straeon, gan ennyn diddordeb yn y sgript ei hun.

Ond yn bwysicach na hynny, mae’r driniaeth yn gymorth i amlygu i mi fy hun beth yw natur y stori. Cyn ei hysgrifennu, mae unrhyw sgript (neu nofel, stori fer ...) yn gymysgedd o syniadau niwlog, ambell olygfa, enw cymeriad, rhyw jôc benodol, a chant a mil o elfennau eraill yr hoffwn eu cynnwys. Mae triniaeth yn help i fireinio’r syniad, ac i gyfuno’r elfennau hyn, fel fy mod gam yn nes at fod yn barod i ysgrifennu’r sgript.

Yn aml, bydd y driniaeth yn amlygu rhai pethau y dylent fod wedi bod yn amlwg o’r dechrau. Yn sydyn, byddaf yn gweld bod cymeriad a ddylai fod yn ddiddorol yn ddiflas ar hyn o bryd, neu nad wyf wedi penderfynu ar ble mae’r stori’n digwydd. Llawer gwell fy mod yn sylwi ar y bylchau hyn yn syth, rhag ofn i mi orfod ailysgrifennu tudalennau ar dudalennau am fy mod am newid rhywbeth elfennol.

Mae’n amhosib meddwl am bopeth ar yr un pryd, felly mae rhoi rhywbeth ar bapur yn gam pwysig. Mae cofio diben y stori yn bwysig hefyd. Ai comedi neu drasiedi yw hon? A ddylai’r cymeriadau fod yn hoffus ai peidio? Diffyg cyfeiriad yw un o broblemau mwyaf teledu, ac mae’n llawer haws penderfynu yn y lle cyntaf na gorfod ailddrafftio’n helaeth yn y pen draw.

Mae’r “crynodeb” ychydig yn wahanol, ac mi wnaf drafod y ddogfen honno y tro nesaf.

Monday, 11 May 2009

Cyflwyniad

Nod y blog hwn fydd nodi fy myfyrdodau wrth i mi weithio tuag at fod yn sgriptiwr proffesiynol.

Hynny yw, dydw i ddim yn awdur proffesiynol o unrhyw fath ar hyn o bryd, felly hanes fy ymdrechion fydd yma yn hytrach na mewnwelediad o’r diwydiant.

(Rwy’n ddrwgdybus iawn o ddefnyddio’r gair “awdur” i ddisgrifio unrhyw un nad ydynt yn gweithio’n broffesiynol, neu wedi cyhoeddi gwaith. Yr un rheswm na fyddwn yn galw rhywun yn “blismon” os mai dyheu am fod yn blismon y mae nhw.)

Rwy’n teimlo bod tair elfen bwysig i’r busnes o fod yn awdur.

Yn gyntaf, ac yn bennaf, ysgrifennu. Rwy’n gredwr cryf mewn gweithio’n galed er mwyn gwella, ac mai ysgrifennu swm enfawr o ddeunydd yw’r unig ffordd o ddatblygu’n ddigon da i wneud hynny’n broffesiynol.

Yn sicr, rwy’n credu mai dyma’r cam anoddaf i nifer. Digalon iawn yw’r syniad bod yn rhaid treulio oriau ac oriau’n ysgrifennu ac ailddrafftio cyn eu bod yn barod am y swydd symlaf un o fewn y byd sgriptio, ond dyna’r realiti.

Yn ail, darllen a gwylio deunydd Cymraeg amrywiol. Gorau po fwyaf o enghreifftiau y caf, ond mae’n bwysig gwella fy nealltwriaeth o strwythur a drama, ac o natur dramâu cyfredol S4C, yn ogystal â gloywi fy sgiliau iaith.

Teimlaf bod gormod o bobl yn credu eu bod yn gwybod y cyfan, ac yn sicr y gallent wneud yn well nag awduron proffesiynol, ond mae’n rhaid gwerthfawrogi doniau awduron cyfredol er mwyn cyrraedd y safon ymhell cyn ystyried eu goddiweddyd.

Yn drydydd, cysylltu â phobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant er mwyn dod i wybod mwy am ochr broffesiynol y gwaith. Mae hon yn elfen bwysig, wrth reswm, ond hon yw’r anoddaf i’w dysgu heb fod yn rhan ohoni.

Ni fyddaf yn gwneud hyn tan i mi fod wedi cynhyrchu cryn dipyn o waith, am fod angen profi fy mod yn barod i wneud y gwaith cyn disgwyl i unrhyw un proffesiynol gymryd fy ngair.

Bydd pob erthygl felly yn ymwneud ag un o’r tair elfen hon, a gobeithio’n gymorth i unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn gweithio yn y maes hwn.

Cyn i mi gloi, mae croeso i chi adael sylwadau ar y blog, neu anfon neges ataf ar Twitter (http://twitter.com/strategaethdai). Fel y soniais uchod, nid awdur proffesiynol mohonof, felly does gen i ddim cyngor o’r tu ôl i’r llen, ond byddai unrhyw gyngor, cefnogaeth neu gymorth y gallech ei gynnig yn cael ei werthfawrogi’n fawr!